Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth              13/01/15                     Ystafelloedd Cynadledda C a D                    18:00

 

Yn bresennol:

 

Suzy Davies AC (Cadeirydd) – SD

Mark Major (Ysgrifennydd) – MM

Adrian Greason-Walker – AGW

David Chapman – DC

Huw Pendleton – HP

Rhun ap Iorwerth – WapI

Peter Black – PB

Keith Davies – KD

Jocelyn Davies – JD

Alun Ffred Jones – AFJ

Mark Isherwood – MI

Chris Osborne – CO

 

Ymddiheuriadau:

 

Dim

 

Trafodaeth:

 

Mae 70 y cant o'r gwelyau i dwristiaid yng Nghymru mewn gwersyllfeydd neu mewn carafannau.

 

Trafodaeth am y ddeddfwriaeth gyfredol ar gyfer carafannau a chartrefi symudol.

Hefyd yn cwmpasu'r gwaith a wneir yn breifat gan berchenogion safleoedd ac awdurdodau lleol.

 

Trafodaeth am sut y gallai Bil arfaethedig Darren Millar effeithio ar weithredwyr safleoedd.

 

Nodwyd fod y sylw yn y cyfryngau mewn perthynas â'r Bil arfaethedig wedi arwain at bryder gan y diwydiant.

 

Gofynnodd SD a yw'r Bil arfaethedig yn “benthyca” o'r Bil a gynigiwyd yn flaenorol gan PB.

Cadarnhaodd PB, hyd eithaf ei ddealltwriaeth, y cyfeiriodd Darren Millar at Fil PB fel man cychwyn ar gyfer drafftio a meddwl am syniadau.

 

Cytunodd y Grŵp i ysgrifennu at Darren Millar i gael eglurhad mewn perthynas â'r Bil a'r amserlen.

 

Cytunodd AapI y byddai unrhyw eglurhad yn ddefnyddiol.

 

Trafodwyd enghreifftiau o ddeddfwriaeth yng Ngogledd Iwerddon, o gymharu â Bil arfaethedig Darren Millar.

 

Nododd AFJ nad oes gan awdurdodau lleol yr adnoddau i weithio gyda'r Bil os daw'n ddeddfwriaeth.

 

Nododd JD yr ymddengys fod yr ystadegau mewn perthynas â chwynion yn bennaf o etholaeth Darren Millar.

 

Awgrymodd HP nad yw'r cyfleusterau ar waith er mwyn i awdurdodau lleol orfodi deddfwriaeth ar hyn o bryd, ac y byddai unrhyw newid sy'n fwy beichus hyd yn oed yn fwy anodd.

 

Nododd RP na fyddai diwygio'r Bil yn helpu oherwydd byddai hyn, yn syml, yn diwygio deddfwriaeth sy'n anghywir.

 

Awgrymodd MI mai un opsiwn fyddai diweddaru'r ddeddfwriaeth gyfredol.

 

Gofynnodd SD sut y byddai Lloegr yn ymdrin â'r mater o gymharu â Chymru.

 

Dywedodd SD y byddai sicrwydd yn ddefnyddiol.

 

Dywedodd SD mai'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fyddai'r cyfarfod nesaf.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:57.